Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Y Mynydd Gwefru

Cyflwyniad

Adeiladu

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Daeareg a chynnal y graig

Cafodd y prif ogofâu a’r twneli mynediad, y twneli tailrace a gwasgedd uchel, hanner isaf y siafft gwasgedd uchel a’r twnnel gwyriad eu cloddio o graig o’r brif Ardal o Lechfaen Cambriaidd. Adeiladwyd y gweithfeydd uchaf mewn dilyniant o grutiau a llechfeini Ordofigaidd Isaf. Dangosir y ddaeareg gyffredinol ar y trychiad daearegol o’r pwerdy cyfan.

Dyma’r dilyniant daearegol yn y gweithfeydd:

Prif graigwely    
Cyfnod Enw Disgrifiad
Ordofigaidd Llechi Maentwrog Llechi a lleidfeini a grutiau mân rhynghaenol.
  Grutiau Bronllwyd Grutiau silicaidd â llechi israddedig iawn.
  Llechi Cambriaidd Y Grwp Llechi Gwyrdd
Y Grwp Llechi Coch Uchaf Brych
Y Grwp Llechi Llwyd/Glas Brith
Y Grwp Rhyngresog Garrat
Y Grwp Porffor Brych a Rhesog
Y Grwp Llechi Coch
Y Grwp Glas Rhesog Caled
Y Grwp Grut Is
Y Grwp Coch a Glas Is

Creigiau Ymwthiol
Cyfnod Enw Disgrifiad
Tertaidd Dolerit Deic olifin-dolerit prin
Ordofigaidd Dolerit Deic metadolerit toreithiog

At ei gilydd, mae’r prif ogofâu yn gorwedd mewn anticlin plyg a ffawtiog o welyau o lechfaen coch a llwydlas Cambriaidd gydag echelinau hydredol yr ogofâu yn gorwedd yn normal bron i streic plân echelinol yr anticlin. Mae’r llechfaen wedi ei rhynghaenu mewn mannau â haenau o grut ac mae ambell i ddeic dolerit sydd bron yn fertigol a hyd at 7m o drwch yn ymwthio iddo. Dangosir daeareg y prif ogofâu ar gynllun daearegol a thrychiad yr ogofâu.

At ei gilydd, mae sefydlogrwydd y graig, ar gyfer y cloddio dan ddaear a’r llethrau ar yr wyneb, yn cael ei bennu gan doriadau y mae pum prif fath ohonynt yn y gwelyau llechfaen, sef arwynebau haenu, planau holltiad, ymylon deiciau, bregion a ffawtiau (mawr a mân) sy’n ffurfio blociau ar wahân o fewn crynswth y graig. Rheolir ymddygiad y blociau unigol (ac felly ymddygiad crynswth y creigiau) gan briodweddau’r toriadau hyn, h.y. eu cyfeiriad, y lle rhyngddynt, eu parhad, eu natur a’r deunydd mewnlenwi, eu hamledd, ac unrhyw lwythi a osodir arnynt. Penderfynwyd ar gynllun yr ogofâu i weddu i anghenion peiriannau ac offer ynghyd â’r angen i gyfyngu ar rai dimensiynau cloddio a chadw colofnau a waliau mewn mannau allweddol. Ffactorau eraill yr oedd yn rhaid eu hystyried oedd cyflwr y diriant o fewn crynswth y graig o ganlyniad i bwysau’r deunydd uwchben, grymoedd tetonig a newidiadau i’r diriant hwn o ganlyniad i gloddio agoriadau dan y ddaear.

Mae’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Ninorwig i sicrhau sefydlogrwydd y graig yn cynnwys:

(1) Rheoli gofalus ar siapiau cloddio a dulliau cloddio.
(2) Atgyfnerthu creigiau (â hoelbrennau, bolltau ac angorion) i ‘bwytho ynghyd’ flociau cyfagos o fewn crynswth y graig a, thrwy roi tensiwn yn yr elfennau atgyfnerthu, clampio ar draws bregion.
(3) Defnyddio concrit chwistrell, ag atgyfnerthiad rhwyllwaith a hebddo, i gadw’r arwyneb a gloddiwyd rhag ymddatod.
(4) Defnyddio elfennau cynnal trwm fel asennau bwa dur neu leinin concrit.
(5) Defnyddio tyllau a llwybrau draenio i rwystro gwasgedd dwr rhag crynhoi o fewn toriadau agored.

Cynnal y graig
Y farn oedd na fyddai dylanwad haenu a hollti ar y gwaith cloddio yn fawr iawn, er bod ymylon y deiciau yn creu amgylchiadau anodd mewn rhai mannau. Ond o safbwynt geotechnegol, y bregion a’r ffawtiau oedd y toriadau pwysicaf o bell ffordd, a chawsant ddylanwad mawr ar y dulliau o gloddio a chynnal y graig a ddefnyddiwyd yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Defnyddiwyd tri math o atgyfnerthiad mecanyddol i’r graig i ddiogelu ffurfiannau’r creigiau yr effeithid arnynt gan doriadau a gwaith cloddio:

(1) Angorion creigiau i roi atgyfnerthiad sylfaenol a sefydlogrwydd cyffredinol.
(2) Bolltau craig i roi atgyfnerthiad eilaidd i ddiogelu blociau bychain i ganolig eu maint ger yr wyneb.
(3) Hoelbrennau creigiau i roi atgyfnerthiad trydyddol i rwystro llacio ar yr wyneb ac i sicrhau’r rhwyllwaith.

Defnyddiwyd llawer o goncrit chwistrell (‘siotcrit’) i gadw’r arwyneb a gloddiwyd rhag ymddatod. Mae trwch y siotcrit yn amrywio o 25mm i 300mm, ac fe’i gosodwyd mewn haenau o hyd at 100mm, gan ychwanegu cyflymydd i hwyluso caledu cyflym yn union ar ôl cloddio. Mewn mannau critigol, atgyfnerthir y siotcrit â rhwyllwaith o ddur o wahanol raddau yn amrywio o wifrau 2.6mm o ddiamedr ar ganol o 70mm, i wifrau 5mm o ddiamedr ar ganol o 200mm.

Cafodd daeareg ddylanwad mawr hefyd ar y technegau tyllu a ffrwydro a ddefnyddiwyd gan y contractwyr yn ystod y cloddio. Cafwyd problemau yn y croestoriadau o ogof i ogof, a olygai fod angen i’r cynlluniau ar gyfer tyllu a ffrwydro fod yn gydnaws â’r ddaeareg wrth iddi newid.

Eglurhad o’r ffigur
Y trefniadau a wnaed i bwytho ynghyd a chynnal adeiladwaith y graig ym mynedfa ganol twnnel y gwyriad.


Gwybodaeth >>