|
Mwngloddiau Aur Dolau Cothi





|
Cyflwyniad
Dyma’r
unig fwynglawdd aur Rhufeinig ym Mhrydain a’r unig gyfle i weld peth o’r
etifeddiaeth fwyngloddio aur a gollwyd yng Nghymru. Mae’r mwynglawdd,
sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o fewn ystad fryniog
hardd, lle mae’r barcud coch prin yn ffynnu. I fynd i mewn i Fwngloddiau
Aur Dolau Cothi byddwch yn mynd trwy ganolfan arddangos sy’n rhoi’r holl
wybodaeth angenrheidiol am hanes y gloddfa a’r pethau y gallwch eu gweld
yno. Mae teithiau tywys ar gael i mewn i ddau o’r gweithiau ac mae taith
hunan-dywys hefyd o’r enw ‘Llwybr y Mwynwyr’, sy’n cymryd tua 45 munud,
o gwmpas y prif bethau diddorol. Yna gallwch roi cynnig ar chwilio am
aur!
|