![]() |
|
|||
Mwngloddiau Aur Dolau Cothi
|
Hanes ac Archaeoleg Wrth ichi fynd i mewn i Fwngloddiau Dolau Cothi, mae pant mawr o’ch blaen â chreigiau coediog hyd ei ochrau, sef Pwll Ogofâu. Dyma safle gwaith brig Rhufeinig enfawr a gloddiwyd er mwyn tynnu aur o’r creigiau braenedig a lenwai’r pant. Mae tystiolaeth y gall peth o’r gwaith brig yn Nolau Cothi fod wedi digwydd cyn gynhared â’r 6ed ganrif CC. Mae’n bosibl mai dyna pam y daeth y Rhufeiniaid i Gymru. Dechreuasant o ddifrif ar y mwyngloddio yma yn OC 75 a dod â miloedd o gaethweision yma i dynnu’r aur allan ar gyfer y Bathdy Ymerodrol yn Lyon.
Ar wahân i ddau dwnnel unigryw sy’n mynd i mewn i un o’r pyllau agored (y lefelau uchaf ac isaf Rhufeinig), mae’r ardaloedd dan y ddaear sydd ar agor i’r cyhoedd yn llawer diweddarach, ac yn dyddio o waith yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, pan fu’r mwynglawdd yn gweithio ar adegau dan yr enw Roman Deep. Suddwyd y gweithiau hyn, gan ddefnyddio driliau a ffrwydron, gannoedd o droedfeddi islaw iard y mwynglawdd, gan ddilyn y mwyn ar led ac i lawr. Adeiladau ac adeiladwaith y daethpwyd â nhw yma yn niwedd y 1980au pan gaewyd mwynglawdd Olwyn Goch ger Helygain yn y Gogledd sydd heddiw fwyaf amlwg yn y rhan ganolog hon o’r mwynglawdd. Ni ddefnyddiwyd y rhain erioed i weithio’r mwynglawdd hwn. Mae mynediad i’r gweithfeydd dan y ddaear yn amodol ar brydles y Goron gan mai’r Goron sydd â’r hawl i’r mwynau. Cyn 1999, Prifysgol Cymru, Caerdydd oedd yn dal y brydles ac roedd staff mwyngloddio’r coleg yn defnyddio rhan o’r safle fel canolfan hyfforddiant maes. |
|||
|