![]() |
|
|||
|
Mwngloddiau Aur Dolau Cothi
|
Daeareg a Mwneiddiad Mae’r safle hwn yn haeddiannol enwog, ac yn hollol unigryw yn ddaearegol, ac am y rheswm hwnnw mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Tynnodd y Rhufeiniaid (ac, yn ôl ymchwil ddiweddar, eu rhagflaenwyr) haen uchaf y dyddodiad aur mawr hwn ymaith, lle yr oedd wedi hindreulio fwyaf. Defnyddient ffosydd i gario dwr am filltiroedd a golchi ymaith y graig wastraff a chasglu’r aur a oedd, oherwydd ei ddwysedd mawr, yn cael ei adael ar ôl. Tybiwn mai dyna a ddigwyddai oherwydd mae’r mwyn nad yw wedi ei hindreulio mor anodd ei drin, hyd yn oed heddiw, oherwydd bod yr aur ar ffurf gronynnau mân iawn wedi eu cloi o fewn crisialau sylffid mewn cwarts gwyn caled. Ond ger yr wyneb, byddai’r sylffidau wedi hindreulio’n bur helaeth, ac yn dadelfennu yn ocsidau a chlai, ac felly’n rhyddhau’r aur gan ei gwneud yn bosibl cael ato. Gallwch weld y mwneiddiad nad yw wedi ei hindreulio mewn gwahanol rannau o’r mwynglawdd sydd bellach ar agor i’r cyhoedd.
Mae daeareg y safle yn bur gymhleth, a dyna pam y mae’n gystal maes hyfforddi i’n daearegwyr ifanc. Yn fras, mae’r ardal a fwneiddiwyd yn anticlein tua’r Gogledd-Ddwyrain - plygiant ar i fyny - ac yn ei ganol mae creigiau gwaddod Ordofigaidd, a chreigiau gwaddod Silwraidd iau ar hyd yr ochrau o’i gylch. Dyddodwyd y creigiau gwaddod yn yr hen fôr y cyfeiriwn ato fel y Basn Cymreig, a ddilewyd ar ddiwedd y cyfnod Silwraidd gan symudiadau daear a barodd godi a phlygu. Yn ôl y damcaniaethau cyfredol (a bu llawer o’r rheiny), dyddodwyd yr aur, y pyrit, yr arsenopyrit, y cwarts, y carbonadau a’r mwynau eraill (gan gynnwys y silicad cooceite prin sy’n cynnwys lithiwm) o hylifau a dreiddiodd i mewn i’r plygiant wrth iddo ddatblygu, gan greu gwythiennau cwarts mawr gwastad a elwir yn wythiennau cyfrwy wedi eu cysylltu â gwythiennau-blaen tenau, serth. Ond ceir damcaniaethau eraill hefyd - a rhyw ddydd efallai y bydd un ohonynt yn cael ei derbyn. Mewn dyddodion cymhleth eu daeareg fel Dolau Cothi, mae damcaniaethau ynghylch y ffordd y digwyddodd y mwneiddiad yn aml yn cael eu hailddiffinio sawl gwaith trwy flynyddoedd o ymchwilio amyneddgar - dyna wyddoniaeth ichi! Ers blynyddoedd lawer, mae myfyrwyr MSc o Gaerdydd wedi helpu i ddrilio twll turio ac archwilio a chofnodi’r craidd a gafwyd ohono, fel rhan o’u gwaith cwrs. Mae’r drilio wedi dangos bod mwneiddiad tebyg i’r hyn a welir yn y mwynglawdd yn digwydd mewn ardaloedd i’r gogledd-ddwyrain i ardal y mwynglawdd. Ymhen amser felly, byddwn yn dod i ddeall y dyddodion hynod gymhleth hyn o fwynau yn well ac yn well. |
|||
|