|
Glo
Olion
mawn a gywasgwyd nes bod dim braidd ar ôl ond carbon yw glo. Mae angen
amodau arbennig i ddigon o fawn grynhoi fel y gallu gynhyrchu glo sylweddol.
Yr amod cyntaf yw bod rhaid cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd planhigion,
ac fel rheol mae hynny’n golygu planhigion sy’n tyfu’n gyflym ac yn ddwys
iawn. Yn ail, rhaid i’r gyfradd o bydredd ym meinwe’r planhigion wedi
iddynt farw fod yn fychan iawn. Gall amrywiaeth o gynefinoedd greu’r ddau
amod hyn ond mae gwern-goedwigoedd y trofannau yn gynhyrchwyr mawn heb
eu hail.
Yn ystod y Cyfnod
Carbonifferaidd, 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru’n agos iawn
i’r cyhydedd. Roedd y rhan fwyaf o dir bryd hynny yn rhan o un uwchgyfandir
o’r enw Pangea. Roedd Cymru yn rhan o ardal enfawr o wlyptiroedd yn ymestyn
o’r hyn a elwir yn awr yn Appalachiaid, ar draws arfordir Canada a gogledd
Ewrop, i Wlad Pwyl (a elwir yn Rhagdir Farisgaidd). Roedd yn gynefin delfrydol
i grwp o blanhigion mawr a elwir yn gnwpfwsoglau mawr a oedd wedi ymaddasu’n
rhagorol i fyw mewn priddoedd isel-faeth, dwrlawn. Ni allai planhigion
eraill oroesi yn yr amodau gwrthnysig hyn. Tyfent yn eithriadol gyflym;
amcangyfrifwyd y gallai eu boncyffion 1-2m o led dyfu sawl metr o hyd
y flwyddyn. Wedi iddynt farw, roedd yr ishaenau dwrlawn asidaidd yn arafu
dadfeiliad y planhigion. Ac felly roedd yr amodau bron yn berffaith ar
gyfer creu’r dyddodion mawn trwchus sydd bellach wedi eu cadw ar ffurf
haenau glo trwchus meysydd glo Cymru. Cyfeirir yn aml at y fforestydd
fel Fforestydd Glo.
Nid planhigion sy’n
creu had fel y rhan fwyaf o blanhigion mawr sy’n tyfu heddiw oedd y rhain,
ond planhigion a atgynhyrchai trwy gyfrwng sborau. Ond ar yr wyneb edrychent
yn debyg iawn i goed a thyfent hyd at 40 metr o uchder. Ond yn wahanol
i wir goeden, ychydig iawn o bren oedd yn y boncyff. Yn wir, roedd llawer
iawn o’r boncyff yn feinwe meddal o’r enw periderm, a ganiatâi i’r planhigion
dyfu’n llawer cyflymach na choed prennaidd. Tyfai llawer iawn o’r cnwpfwsoglau
hyn mewn ffordd debyg i lawer o blanhigion llai, llysieuol heddiw: tyfent
yn blanhigion aeddfed, atgynhyrchent, ac yna byddent yn marw. Mae’r rhan
fwyaf o goed modern yn atgynhyrchu am flynyddoedd lawer ar ôl aeddfedu.
Dyna pam y mae llawer o balaeontolegwyr yn galw’r planhigion darfodedig
hyn yn llysiau enfawr yn hytrach na choed.
Mae cnwpfwsoglau i’w
cael heddiw, ond bellach planhigion bach llysieuol ydynt i gyd, ddim mwy
nag ychydig gentimetrau o uchder. Mae eu henw cyffredin yn dangos sut
y maent yn edrych ar yr wyneb fel gwir fwsoglau (mae’r ‘cnwp’ yn cyfeirio
at ffurf y conau sy’n dwyn y sborau y mae’r rhan fwyaf yn eu cynhyrchu).
Ond nhw oedd un o’r grwpiau pwysicaf o blanhigion mawr a dyfai yn y Fforestydd
Glo.
Tyfai planhigion eraill
hefyd yn y Fforestydd Glo, ond yn bennaf yn yr ardaloedd llai dwrlawn,
fel ar lannau uwch afonydd a lifai trwy’r gwernydd. Yma byddai coed-redyn
yn tyfu, a edrychai’n debyg iawn i’r coed-redyn hynny sy’n byw mewn llefydd
fel Seland Newydd heddiw (er eu bod yn perthyn i deuluoedd o redyn gwahanol
i rai heddiw). Roedd rhai planhigion had hefyd a berthynai i nifer o grwpiau
sydd bellach yn ddarfodedig, fel y cordaitiaid (perthnasau pell i gonwydd
heddiw) a’r medwlosaliaid neu’r had-redyn (perthnasau pell i’r cycadiaid).
Roedd
llynnoedd a phyllau yn y gwernydd lle na thyfai unrhyw blanhigion ar wahân
i algâu. O gwmpas y llynnoedd hyn tyfai dryslwyni o blanhigion tebyg i
goed o’r enw calamitiau, a gyrhaeddai uchder o ddeg metr neu ragor. Eu
perthnasau yn y cyfnod modern yw’r marchrawn, sy’n dal i dyfu’n doreithiog,
bron trwy’r byd i gyd. Ond eto, fel y cnwpfwsoglau, maent yn llawer llai.
Fel yn achos y goedwig
law drofannol heddiw, planhigion o faint coed oedd yn tra-arglwyddiaethu
ar y llystyfiant. Mae’n anodd i blanhigion llai gystadlu am olau â chewri’r
goedwig, a rhaid iddynt addasu strategaethau eraill i oroesi. Yn fforestydd
trofannol heddiw, lianas yw llawer o blanhigion nad ydynt yn goed, sy’n
gallu tyfu i fyny boncyffion y coed i gyrraedd y goleuni; neu maent yn
ardyfwyr neu’n epiffytau sydd wedi ymaddasu i fyw yng nghorun y goeden.
Mae gennym dystiolaeth i fodolaeth lianas ac epiffytau yn y Fforestydd
Glo, er nad oeddent mor doreithiog nac amrywiol â’r rhai a geir yn y fforestydd
modern.
Y sffenoffyliaid yw’r
unig blanhigion daear llysieuol yn y Fforestydd Glo. Planhigion sgrialog
oedd y rhain a oedd yn ôl pob tebyg yn gallu tyfu’n gyflym iawn i orchuddio
ardaloedd yn y goedwig a fyddai’n wag, efallai oherwydd cwymp coeden.
Mae’r sffenoffyliaid yn dipyn o ddirgelwch. Roedd ganddynt ddail yn gylchoedd
o amgylch y coesyn, yn debyg i’r marchrawn, a chredai gwyddonwyr ar un
adeg eu bod yn perthyn o bell i’r grwp hwnnw. Ond mae’r conau atgynhyrchu
a’r dail yn hollol wahanol, ac felly mae’n debyg eu bod yn cynrychioli
grwp o blanhigion sy’n gwbl ddarfodedig ac nad oes unrhyw berthnasau agos
iddynt yn fyw heddiw.
Mae’r dystiolaeth
ddaearegol i’r Fforestydd Glo i’w chael heddiw yn y meysydd glo, y mae
dau ohonynt yng Nghymru. Mae Maes Glo’r Gogledd yng ngogledd-ddwyrain
y wlad ac, mewn gwirionedd, estyniad i’r gorllewin yw o Faes Glo Sir Gaerhirfryn.
Mae Maes Glo’r De yn llawer mwy ac yn ymestyn i’r gorllewin o fan yn agos
i’r ffin â Lloegr hyd arfordir pellaf sir Benfro. Rhwng y ddau faes glo
hyn mae ardal a elwir yn Massif Cymru-Brabant, a oedd yn ystod y cyfnod
Carbonifferaidd Hwyr yn ardal ychydig yn sychach lle na allai’r Coedwigoedd
Glo ddatblygu.
Mae’r
dystiolaeth ddaearegol i’r Fforestydd Glo yng Nghymru wedi ei diogelu
yn yr Haenau Glo. Mae’r creigiau hyn yn cynnwys haenau o siâl a thywodfaen
llwyd yn bennaf, a rhyngddynt haenau llawer teneuach o lo. Y siâl a’r
tywodfaen yw’r gwaddod a oedd wedi crynhoi yn yr afonydd a’r llynnoedd
yn y gwernydd, a’r glo yw’r gwelyau mawn cywasgedig. Mae pwysau’r gwaddod
wedi cywasgu cryn dipyn ar y mawn; amcangyfrifir heddiw mai dim ond chweched
ran o’u trwch gwreiddiol pan oeddent yn fawn yw’r haenau glo a geir yng
Nghymru. Ac felly, er nad felly yr ymddengys bellach, dylid sylweddoli
bod yr Haenau Glo nodweddiadol yn cynrychioli haenau hynod drwchus o fawn,
a rhyngddynt haenau cymharol denau o waddod.
Yn y gorffennol, oherwydd
eu bod mor bwysig fel ffynhonnell tanwydd yr oedd diddordeb yn yr Haenau
Glo. Rodd deall daeareg y dyddodion hyn yn helpu glowyr i gloddio am lo
mewn ffyrdd mwy economaidd. Ond yn ddiweddar bu daearegwyr yn edrych o’r
newydd ar y dyddodion hyn. Er eu bod wedi eu ffurfio gynifer o filiynau
o flynyddoedd yn ôl, maent yn cynrychioli amser sy’n debyg i heddiw mewn
llawer ffordd. Dyma’r unig amser arall yn y gorffennol daearegol pan oedd
iâ pegynol helaeth ynghyd â fforestydd trofannol enfawr. Ac felly, gall
deall y digwyddiadau a fu yn y cyfnod Carbonifferaidd ein helpu i ddeall
yr effeithiau sy’n achosi newid mewn hinsawdd heddiw.
<<
Cysylltiadau
|