|
Labyrinth y
Brenin Arthur





|
Cyflwyniad
Yn hen Gloddfeydd
Llechi Braich Goch yng Nghorris y mae Labyrinth y Brenin Arthur. Yma,
mae taith ar gwch yn mynd â chi ar hyd afon danddaearol trwy raeadr fawr
i mewn i'r Labyrinth. Yna byddwch yn cerdded trwy'r ogofâu ac yn ôl i'r
gorffennol i weld tablo o'r chwedlau Arthuraidd a bydd storïwr yn adrodd
hanesion o'r Mabinogion a Chwedlau Taliesin.
Mae'r
bachgen Myrddin yn siarad â'r brenin Gwrtheyrn y mae'r Sacsoniaid yn ei
alw'n Vortigern ac yn dweud wrtho - 'O dan fynyddoedd Dinas Emrys gwelais
ddwy ddraig, un goch ac un wen. Mae'r ddraig wen yn cynrychioli'r Sacsoniaid
a'r ddraig goch y Brythoniaid. Y ddraig wen yw'r gryfaf ond daw dydd y
ddraig goch... Daw brenin ar dy ôl di a fydd yn gyrru'r Sacsoniaid allan
ac yn dod â heddwch, a'i enw fydd Arthur.' Fel y digwydd, Taliesin ei
hun sy'n dweud wrthych am Fyrddin yn Ninas Emrys a'r frwydr rhwng y ddraig
goch a'r ddraig wen, y frwydr â'r cawr Rhita, chwedl pen Brân, brwydr
Camlan a'r daith i Afallon. Mae'r storïwr hefyd yn adrodd hanes teyrnas
goll Cantre'r Gwaelod a'r chwedl fod Arthur ei hun yn dal i gysgu mewn
ogof ym mynyddoedd Cymru yn aros am yr alwad i achub y Cymry pan fyddant
mewn perygl eto.
Mae'r storïau hyn
yn benodol gysylltiedig â Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol,
'Goresgynwyr a Gwladychwyr: Y Celtiaid' a bwriedir iddynt ysgogi trafod
a hyrwyddo gwaith pellach, â chymorth pecyn gweithgareddau a llyfryn sy'n
rhoi mwy o fanylion hanesyddol am gefndir y chwedlau Arthuraidd.
|